Dydd Llun 26 Mehefin 2023

Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) yn lansio is-gronfa Ecwiti Gweithredol Byd-eang Cynaliadwy newydd

Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru ('PPC'), sy'n cyfuno wyth Cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol Cymru, wedi lansio is-gronfa Ecwiti Gweithredol Byd-eang Cynaliadwy ar ei phlatfform Cynllun Contractiol Awdurdodedig presennol. Mae'r lansiad yn gwella'r dewis sydd ar gael i awdurdodau cyfansoddol PPC ymhellach ac yn cyd-fynd â'u hamcanion cynaliadwyedd sy'n datblygu.

Mae'r is-gronfa newydd wedi lansio gyda £1.2bn. Mae pob un o wyth Cronfa Cymru yn cymryd rhan a bydd Russell Investments yn rheoli ateb ecwiti gweithredol cynaliadwy aml-reolwr amrywiol sydd wedi'i greu yn ôl gofynion pwrpasol PPC. Mae'r ateb yn cynnwys pum arbenigwr o safon uchel (Sparinvest, Mirova, Neuberger Berman, Wellington a Artemis) a nodwyd ac a aseswyd gan fframwaith ymchwil berchnogol Russell Investments i sicrhau bod cynigion cynaliadwy ac addas yn cael eu cynnwys.

Mae'r ateb hefyd yn cynnig yr hyblygrwydd i ddatblygu wrth i ofynion PPC newid, neu wrth i'r dirwedd gynaliadwy barhau i ddatblygu, gan ddefnyddio galluoedd Gweithredu Portffolio Gwell Russell Investments – seilwaith sy'n galluogi newidiadau wedi'u haddasu ac effeithlon i'r is-gronfa gyda phroses rheoli portffolio ganolog.

Mae Link Fund Solutions, a benodwyd gan PPC fel gweithredwr a awdurdodwyd gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn 2018, yn gyfrifol am greu a gweithredu'r is-gronfa newydd. Cafodd Russell Investments ei benodi gyntaf fel darparwr atebion rheoli buddsoddiadau PPC yn 2018.

 

Wrth sôn am lansio'r is-gronfa, dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru:

“Uchelgais tymor hir PPC yw dangos arweinyddiaeth o ran cynaliadwyedd ac arferion buddsoddi cyfrifol ar gyfer ac ar ran yr Awdurdodau Cyfansoddol. Mae'r is-gronfa newydd hon yn cefnogi'r uchelgeisiau hyn o ran sicrhau manteision ariannol a manteision cynaliadwyedd ehangach i'r Awdurdodau, a'u haelodau.

Ychwanegodd Jim Leggate, Pennaeth Gwerthu a Chleientiaid EMEA yn Russell Investments: 

“Rydym yn falch iawn o fod wedi cefnogi Partneriaeth Pensiwn Cymru ar ei thaith tuag at gyflawni ei hamcanion ariannol a chynaliadwy hirdymor. Mae ein hateb pwrpasol yn cysylltu â chyfres amrywiol o strategaethau o'r radd flaenaf a fydd ar yr un pryd yn elwa ar y newid i fyd mwy cynaliadwy ac yn cyfrannu ato. Mae'r penodiad yn adeiladu ar brofiad helaeth Russell Investments wrth ddylunio a rheoli atebion cynaliadwy i'n cleientiaid.”

Ychwanegodd Karl Midl, Prif Swyddog Gweithredol Link Fund Solutions:

“Fel Gweithredwr Partneriaeth Pensiwn Cymru, rydym yn falch iawn o lansio a goruchwylio'r is-gronfa Ecwiti Gweithredol Cynaliadwy newydd. Rydym yn cydnabod bod cynaliadwyedd yn rhan gynyddol bwysig o'r broses fuddsoddi ac rydym yn falch o gefnogi Partneriaeth Pensiwn Cymru i gyflawni ei hamcanion buddsoddi cyfrifol.”

 

Y DIWEDD

 

I gael rhagor o wybodaeth:

partneriaethpensiwncymru@sirgar.gov.uk

 

Rhestr o'r Awdurdodau Cyfansoddol

  • Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg
  • Cronfa Bensiwn Clwyd
  • Cronfa Bensiwn Dyfed
  • Cronfa Bensiwn Gwent Fwyaf (Torfaen)
  • Cronfa Bensiwn Gwynedd
  • Cronfa Bensiwn Powys
  • Cronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf
  • Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe

 

Gwybodaeth am PPC

Sefydlwyd Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) yn 2017. Mae PPC yn gyfuniad o wyth cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Awdurdodau Cyfansoddol) sy'n cwmpasu Cymru gyfan ac yn un o wyth cronfa genedlaethol Pensiwn Llywodraeth Leol.

Mae ganddi hanes hir, llwyddiannus o gydweithio, gan gynnwys enghreifftiau cyn menter gyfuno'r Llywodraeth. Mae'n falch o'i hunaniaeth unigryw fel cronfa – mae ei Hawdurdodau Cyfansoddol yn cynrychioli ac yn rhychwantu Cymru gyfan. Mae bod yn atebol yn ddemocrataidd yn golygu ei bod yn darparu'r drefn orau o lywodraethu sector cyhoeddus mewn modd tryloyw.

Mae model gweithredu PPC wedi'i ddylunio i fod yn hyblyg ac i roi gwerth am arian. Penododd Weithredwr allanol ac mae'n defnyddio ymgynghorwyr allanol i gael yr arbenigedd gorau i gefnogi'r modd y mae'r Gronfa'n cael ei rhedeg. Link Fund Solutions yw'r Gweithredwr ac mae wedi ymuno â Russell Investments i reoli buddsoddiadau a helpu i leihau costau rheoli buddsoddi ar gyfer yr holl Awdurdodau Cyfansoddol.

Yn ôl