Dydd Mawrth 13 Ebrill 2021

Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) yn lansio menter ddatgarboneiddio

Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru ('PPC'), sy'n cyfuno wyth Cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol Cymru, wedi cyflwyno menter ddatgarboneiddio newydd ar draws ei hasedau ecwiti byd-eang gwerth £2.5bn a reolir gan Russell Investments.

Yn sgil hyn, bydd mandad ecwiti byd-eang PPC yn sicrhau gostyngiad wedi'i dargedu o 25% o ran ei ôl troed carbon a'i gronfeydd tanwydd ffosil o'i gymharu â'i feincnod (Mynegai Byd Pob Gwlad MSCI). Bydd y portffolio hefyd yn gwahardd cwmnïau sy'n dibynnu ar lo i greu refeniw.

Mae PPC yn defnyddio seilwaith Gweithredu Portffolio Manylach (EPI) Russell Investments i gyflawni ei thargedau datgarboneiddio.

Mae EPI yn defnyddio proses masnachu a rheoli portffolio ganolog lle mae Russell Investments yn gyfrifol am weithredu strategaethau buddsoddi rheolwyr cronfeydd sylfaenol PPC. Drwy'r fframwaith hwn, mae PPC yn gallu elwa ar gael mwy o reolaeth dros amcanion datgarboneiddio ac o ran addasu, yn ogystal ag amcanion eraill sy'n gysylltiedig â ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu (ESG). Hefyd, mae EPI yn ceisio sicrhau arbedion effeithlonrwydd masnach drwy ostyngiadau sylweddol mewn gweithgarwch masnachu.

Mae'r fenter ddatgarboneiddio yn gam cadarnhaol tuag at nodau PPC sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd a'i nodau ehangach o ran ESG.

Wrth sôn am lansio'r fenter ddatgarboneiddio newydd, mae'r Cynghorydd Glyn Caron, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru yn dweud:

“Yn ogystal â chreu heriau sylweddol i gymdeithas, mae newid yn yr hinsawdd yn creu risg ariannol i'n Hawdurdodau Cyfansoddol ac aelodau'r cynllun. Drwy leihau'r amlygiad i garbon yn ein hasedau ecwiti gweithredol, mewn partneriaeth â Russell Investments, rydym yn ceisio mynd i'r afael â'r heriau hyn. Credwn fod hwn yn gam cyntaf cadarnhaol tuag at gyflawni ein nodau cynaliadwyedd hirdymor."

Mae Jim Leggate, Rheolwr Gyfarwyddwr, Busnesau Sefydliadol y DU a'r Dwyrain Canol yn Russell Investments, hefyd yn dweud:

"Mae materion sy'n ymwneud â newid yn yr hinsawdd a'r broses o drosglwyddo i economi carbon isel yn faterion cynyddol bwysig y mae perchnogion asedau sefydliadol yn ceisio mynd i'r afael â nhw. Rydym yn falch o gefnogi PPC o ran ei nod i leihau carbon fel rhan o fframwaith ehangach sy'n ceisio adlewyrchu anghenion datblygol ei haelodau. Drwy ein fframwaith Gweithredu Portffolio Manylach, rydym mewn sefyllfa dda i ddarparu ateb wedi'i addasu sy'n gyfannol, yn effeithlon ac yn isel ei gost ac sy'n datblygu yn ôl nodau cynaliadwyedd hirdymor cyfunol Awdurdodau Cyfansoddol PPC.”

Mae Eamonn Gough, Uwch-reolwr Cysylltiadau yn Link Fund Solutions, yn ychwanegu:  

“Fel perchennog asedau ymroddedig, mae PPC yn deall mor hanfodol bwysig ydyw i gefnogi'r broses o drosglwyddo i economi carbon isel.  Mae'r fframwaith gweithredu manylach sy'n cael ei ddefnyddio yn gallu cadw'r rheolwyr sylfaenol presennol a'r strwythur gweithredu eang yn ogystal â galluogi PPC i sicrhau gostyngiad yng nghyfanswm y buddsoddiadau carbon yn y portffolio."

 

Y DIWEDD

 

Rhagor o wybodaeth:

partneriaethpensiwncymru@sirgar.gov.uk

 

Nodyn i Olygyddion:

* Rhestr o'r Awdurdodau Cyfansoddol

  • Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg
  • Cronfa Bensiwn Clwyd
  • Cronfa Bensiwn Dyfed
  • Cronfa Bensiwn Torfaen
  • Cronfa Bensiwn Gwynedd
  • Cronfa Bensiwn Powys
  • Cronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf
  • Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe

 

Gwybodaeth am Bartneriaeth Pensiwn Cymru

Sefydlwyd Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) yn 2017. Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru yn gyfuniad o wyth cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Awdurdodau Cyfansoddol) sy'n cwmpasu Cymru gyfan ac yn un o wyth cronfa genedlaethol Pensiwn Llywodraeth Leol.

Mae ganddi hanes hir, llwyddiannus o gydweithio, gan gynnwys enghreifftiau cyn menter gyfuno'r Llywodraeth. Mae'n falch o'i hunaniaeth unigryw fel cronfa – mae ei Hawdurdodau Cyfansoddol yn cynrychioli ac yn rhychwantu Cymru gyfan. Mae bod yn atebol yn ddemocrataidd yn golygu ei bod yn darparu'r drefn orau o lywodraethu sector cyhoeddus mewn modd tryloyw.

Mae model gweithredu Partneriaeth Pensiwn Cymru wedi'i ddylunio i fod yn hyblyg ac i roi gwerth am arian. Roedd wedi penodi Gweithredwr allanol ac mae'n defnyddio ymgynghorwyr allanol i gael yr arbenigedd gorau i gefnogi'r modd y mae'r Gronfa'n cael ei rhedeg. Link Fund Solutions yw'r Gweithredwr ac mae wedi ymuno â Russell Investments i reoli buddsoddiadau a helpu i leihau costau rheoli buddsoddi ar gyfer yr holl Awdurdodau Cyfansoddol.

Yn ôl