Llofnodwr Cod Stiwardiaeth y DU
Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) bellach yn un o lofnodwyr Cod Stiwardiaeth y DU.
https://www.frc.org.uk/investors/uk-stewardship-code/uk-stewardship-code-signatories
Mae Cod Stiwardiaeth y DU 2020 yn gosod safonau uchel ar gyfer stiwardiaeth ac mae PPC wedi ceisio cyrraedd y safonau hyn drwy ei hagwedd at fuddsoddi cyfrifol. Felly, mae PPC yn falch iawn o gael ei chydnabod fel un o lofnodwyr y Cod.
Roedd ein hadroddiad ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021 yn ymwneud â'r cam cyntaf ar daith PPC, sef blwyddyn pan osodwyd sylfeini cadarn drwy benodi Robeco yn ddarparwr stiwardiaeth, sefydlu ein His-grŵp Buddsoddi Cyfrifol a dechrau'r broses o sicrhau bod ein hymrwymiadau polisi yn cael eu rhoi ar waith. Buom hefyd yn gweithio'n agos gyda Link Fund Solutions a Russell Investments yn ystod y flwyddyn i ddatblygu a gweithredu strategaeth ddatgarboneiddio arloesol ar gyfer ein Cronfa Cyfleoedd Byd-eang, ac ers hynny rydym wedi ceisio ymestyn y broses hon i'n His-gronfeydd eraill.
Rydym yn cydnabod bod llawer mwy i'w wneud ond rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gynyddu ein dealltwriaeth o arferion buddsoddi cyfrifol a datblygu ein dull gweithredu. Dysgodd y broses adrodd lawer i ni ac rydym eisoes wedi cymryd camau i weithredu rhai o'r gwersi hynny, er enghraifft, drwy graffu'n fwy ar ein darparwyr a'r asedau y maent yn eu rheoli ar ein cyfer. Rydym yn gwneud hyn gan gydnabod bod gan PPC gyfrifoldeb i bob un o'r wyth Awdurdod Cyfansoddol yng Nghymru, ac aelodau eu cynlluniau pensiwn, i fod yn stiwardiaid effeithiol o'u hasedau.
Newyddion Arall
Gweld PopethPartneriaeth Pensiwn Cymru yn dyfarnu contractau buddsoddi Marchnadoedd Preifat
Heddiw, mae Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cyhoeddi cyfres o benodiadau i hwyluso'r gwaith o weithredu ei atebion buddsoddi mewn Seilwaith Cyfun a Dyledion Preifat.
Bydd Russell Investments yn datblygu rhaglen buddsoddi mewn dyledion preifat cyfun PPC, bydd GCM Grosvenor yn gweithredu buddsoddiadau seilwaith pengaead a bydd seilwaith penagored yn cael ei fuddsoddi drwy Gronfa Seilwaith Byd-eang CBRE, Cronfa Seilwaith Byd-eang IFM ac SCSp Seilwaith Ynni Adnewyddadwy Octopus.
Mae'r penodiadau'n dilyn proses gaffael drylwyr sy'n cael ei rhedeg gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru gyda'r cwmni ymgynghori buddsoddi bfinance. Bydd y datblygiad yn galluogi mynediad effeithlon ac effeithiol i ddosbarthiadau asedau amgen sy'n prysur ddod yn ddaliadau sylweddol ar gyfer cronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
Cafodd Cyd-bwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru ei sefydlu yn 2017 ac mae'n gyfrifol am oruchwylio'r gronfa, sefydliadau partner, a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu i gronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru.
Cyngor Sir Caerfyrddin yw'r Awdurdod Cynnal, gan gysylltu o ddydd i ddydd â phartneriaid allanol y Gronfa ar ran holl gronfeydd y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru.
Chris Moore, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol Cyngor Sir Caerfyrddin (Awdurdod Cynnal Partneriaeth Pensiwn Cymru):
“Yn hanesyddol, mae wedi bod yn heriol cael mynediad at ddosbarthiadau asedau amgen mewn modd cost-effeithiol. Mae cyfuno yn cynnig cyfle i fynd i'r afael â'r her hon. Mae gan gronfeydd cyfansoddol y PPC alw strategol cynyddol am y buddsoddiadau hyn, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda'n partneriaid newydd i ateb y galw hwn.”
PPC yn ennill Gwobr Cronfa'r Flwyddyn yng Ngwobrau Buddsoddiadau Fforwm Cronfeydd Pensiwn yr Awdurdodau Lleol 2021
Mae'n fraint cyhoeddi ein bod wedi llwyddo i ennill Cronfa'r Flwyddyn yng Ngwobrau Buddsoddiadau Fforwm Cronfeydd Pensiwn yr Awdurdodau Lleol 2021, a gynhaliwyd yn Llundain ar 29 Mawrth 2022.
Hoffem ddiolch i bob un o'r 8 cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru a'n darparwyr allanol am eu cefnogaeth barhaus, ein rhanddeiliaid a phawb sy'n gysylltiedig â rheoli a darparu gwasanaeth rhagorol i'r Cynllun.
Datganiad ar argyfwng Rwsia / Wcráin
Datganiad gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru a'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru
Mae'r sefyllfa yn Wcráin yn peri tristwch mawr i ni ac rydym yn meddwl am bobl Wcráin.
Mae cyfanswm ein cysylltiad â Buddsoddiadau Rwsiaidd yn fach iawn ac yn llai nag 1%. Er hynny, yng ngoleuni'r digwyddiadau ofnadwy yr ydym wedi'u gweld a'r sancsiynau economaidd a osodwyd yn rhyngwladol, rydym wedi penderfynu'n gyfunol y dylid dadfuddsoddi o'r daliannau hyn cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl.
O ystyried yr amgylchiadau, nid ydym yn credu bod ymwneud â'r cwmnïau hyn yn opsiwn posibl.
Y Cynghorydd Clive Lloyd
Ar gyfer ac ar ran Partneriaeth Pensiwn Cymru a'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru