Dydd Mercher 08 Ebrill 2020

Partneriaeth Pensiwn Cymru yn penodi Hymans Robertson fel ei Hymgynghorydd Goruchwyliaeth

Rydym yn falch iawn o roi gwybod i chi bod Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) wedi penodi Hymans Robertson LLP yn ffurfiol i fod yn Ymgynghorydd Goruchwyliaeth PPC. Mae rôl Hymans Robertson yn cynnwys goruchwylio a chynghori ar drefniadau llywodraethu, gwasanaethau gweithredwyr, agweddau ar fuddsoddi strategol a chymorth rheoli prosiectau. 

Yn dilyn ymarfer caffael manwl, penododd PPC Hymans Robertson ar 1 Ionawr 2020. Bydd y contract am 3 blynedd gyda’r posibilrwydd o estyniad am 2 blynedd arall. Roedd profiad llwyddiannus Hymans Robertson o roi cyngor penodol ynghylch strategaethau buddsoddi i Gynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol wedi gwneud argraff ar PPC, yn ogystal â'i wybodaeth am farchnad gweithredwyr y Cynllun Contractiol Awdurdodedig a'i brofiad ohoni. Hefyd, roedd yn gallu dangos tystiolaeth o'i gryfder o ran gwasanaethau llywodraethu ym maes buddsoddi a rheoli prosiectau.

Mae PPC yn llawn cyffro am gam nesaf ei thaith, lle bydd yn canolbwyntio ar gyflwyno’r manteision o gyfuno i'w rhanddeiliaid allweddol. Mae'r penodiad hwn yn adlewyrchu hyder PPC yng ngallu Hymans Robertson i gefnogi PPC yn y cam nesaf o'r daith hon.

Cadwch lygad ar y wefan i weld Cynllun Busnes PPC a fydd yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir, sy'n amlinellu'r gwaith cyffrous ac uchelgeisiol y bydd y PPC yn ei wneud dros y tair blynedd nesaf. Mae'r Cynllun Busnes wedi cael ei lunio gyda chymorth gan Hymans Robertson ac mae'n cynrychioli blaenoriaethau ac amcanion unedig yr wyth Awdurdod Cyfansoddol yng Nghymru.

Yn ôl