Dydd Llun 25 Tachwedd 2019

Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cyhoeddi Polisi BC

Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC), sy'n cyfuno wyth Cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol Cymru, wedi cyhoeddi polisi Buddsoddi Cyfrifol (BC) newydd, sy'n tynnu sylw at ei hymrwymiad i fuddsoddi'n gyfrifol a'i dyhead i arwain yn y maes hwn.

Cafodd y polisi cyffredinol newydd ei ddatblygu ar y cyd gan PPC a'i wyth Awdurdod Cyfansoddol* a bydd yn cael ei fabwysiadu gan bob un ohonynt. Ar yr un pryd, bydd yn galluogi Awdurdodau Cyfansoddol unigol i gynnal a datblygu eu polisïau BC eu hunain.

Wrth sôn am ddatblygu'r polisi BC newydd, mae Chris Moore, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol o Awdurdod Cynnal PPC, yn dweud: "Mae polisïau buddsoddi cyfrifol yn hollbwysig, nid yn unig ar gyfer gweinyddu ein cronfeydd ond ar gyfer dyfodol Cymru. Fe wnaethom gydnabod pa mor hanfodol i PPC oedd sefydlu ei pholisi buddsoddi cyfrifol ei hun a'n bwriad oedd sicrhau bod holl randdeiliaid PPC yn cael eu cynrychioli wrth ddatblygu'r polisi. Roedd ennyn cefnogaeth a dod i gonsensws ymysg yr Awdurdodau Cyfansoddol yn hanfodol. Roedd angen inni sicrhau bod y polisi yn cynrychioli'r ystod eang o gredoau buddsoddi sydd yn y Gronfa. Rydym wrth ein boddau ein bod yn gytûn â'n gilydd o ran y polisi, a bellach gellir ei roi ar waith ar ran yr Awdurdodau Cyfansoddol sy'n gyfrifol amdano. Rydym i gyd yn hynod ymroddedig i weld y Polisi BC newydd uchelgeisiol hwn yn llwyddo."

Yn ei bolisi BC newydd, mae PPC wedi cytuno i flaenoriaethu nifer o gamau gweithredu yn ystod y 12 mis nesaf, gan gynnwys datblygu polisi sy'n ymwneud yn benodol â newid yn yr hinsawdd ac ymgysylltu â'i rheolwyr buddsoddi i ddatblygu ystod o fetrigau priodol sy'n monitro BC.

Gellir dod o hyd i fersiwn lawn o bolisi BC ar ei gwefan Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

*Rhestr o'r Awdurdodau Cyfansoddol

  • Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg
  • Cronfa Bensiwn Clwyd
  • Cronfa Bensiwn Dyfed
  • Cronfa Bensiwn Torfaen
  • Cronfa Bensiwn Gwynedd
  • Cronfa Bensiwn Powys
  • Cronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf
  • Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe

 

Gwybodaeth am PPC

Sefydlwyd Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) yn 2017. Mae PPC yn gyfuniad o wyth cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Awdurdodau Cyfansoddol) o bob rhan o Gymru ac mae'n un o wyth cronfa genedlaethol Pensiwn Llywodraeth Leol.

Mae ganddi hanes hir a llwyddiannus o gydweithio, gan gynnwys esiamplau sy'n dyddio o gyfnod cyn menter gyfuno'r Llywodraeth. Mae'n falch o'i hunaniaeth unigryw fel Cronfa - mae ei Hawdurdodau Cyfansoddol yn cynrychioli Cymru gyfan ac yn dod o bob rhan o'r wlad. Mae bod yn atebol yn ddemocrataidd yn golygu ei bod yn darparu'r gorau o ran tryloywder a llywodraethu'r sector cyhoeddus yn gadarn.

Mae model gweithredu PPC wedi cael ei ddylunio i fod yn hyblyg ac i gynnig gwerth am arian. Penodwyd Gweithredwr allanol a defnyddir ymgynghorwyr allanol er mwyn cael yr arbenigedd gorau i gefnogi gweinyddu'r Gronfa. Link Fund Solutions yw'r Gweithredwr ac mae wedi ymuno â Russell Investments i reoli'r buddsoddiadau a helpu i leihau costau rheoli buddsoddi ar gyfer yr holl Awdurdodau Cyfansoddol.

Yn ôl