Cyd-bwyllgor Llywodraethu
Mae Cyd-bwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru yn goruchwylio cyfuno buddsoddiadau'r wyth cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol sydd yng Nghymru. Mae'r Cyd-bwyllgor Llywodraethu yn cwrdd o leiaf 4 gwaith y flwyddyn yn swyddfeydd un o'r awdurdodau cyfansoddol ac mae pob cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y we. Gallwch weld y gweddarllediad yn ogystal ag agenda a chofnodion pob cyfarfod ar wefan yr Awdurdod Cynnal. Mae'r Cyd-bwyllgor Llywodraethu yn cynnwys un aelod etholedig o bob Awdurdod Cyfansoddol, sef ar hyn o bryd:
Y Cynghorydd Peter Lewis (Cadeirydd) Cyngor Sir Powys (Cronfa Bensiwn Powys)
Y Cynghorydd Glyn Caron (Is-gadeirydd) Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (Cronfa Bensiwn Gwent fwyaf (Tor-faen)
Y Cynghorydd Clive Lloyd Dinas a Sir Abertawe (Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe)
Y Cynghorydd Mark Norris Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Cronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf)
Y Cynghorydd John Pughe Roberts Cyngor Sir Gwynedd (Cronfa Bensiwn Gwynedd)
Y Cynghorydd Aaron Shotton Cyngor Sir y Fflint (Cronfa Bensiwn Clwyd)
Y Cynghorydd Chris Weaver Cyngor Dinas Caerdydd (Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg)
Y Cynghorydd Elwyn Williams Cyngor Sir Gâr (Cronfa Bensiwn Dyfed)