Mae gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru gyfanswm asedau gwerth £22.5bn (ar 31 Mawrth 2023) y mae £15.7bn (70%) ohono eisoes wedi'i gyfuno. Mae'r rhan fwyaf o'r asedau hylifol cyfun o fewn yr is-gronfeydd isod, mae'r buddsoddiadau goddefol (£5.1bn) i bob pwrpas o fewn y gronfa ond maent yn cael eu dal gan awdurdodau PPC priodol ar ffurf polisïau yswiriant.

Mae PPC wrthi'n sefydlu rhaglenni buddsoddi ar gyfer ei dosbarthiadau asedau Marchnad Preifat. Mae'r rhaglenni buddsoddi Seilwaith a Chredyd Preifat wedi cael eu lansio a bydd y rhaglen fuddsoddi Ecwiti Preifat yn cael ei lansio yn ddiweddarach eleni. Nid oedd unrhyw asedau wedi'i drosglwyddo i'r rhaglenni hyn ar 31 Mawrth 2023.