Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru yn rhoi pwyslais cryf ar lywodraethu ac mae'r diagram cysylltiedig yn dangos y strwythur llywodraethu a sefydlwyd gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru.

Mae'r awdurdodau cyfansoddol wedi ymrwymo i sefydlu Partneriaeth Pensiwn Cymru drwy Gytundeb Rhwng Awdurdodau. Yn dilyn ffurfioli'r Cyd-bwyllgor Llywodraethu ym Mehefin 2017, mae wedi cyfarfod yn rheolaidd i gyflawni ei gyfrifoldebau.

Mae Cytundeb Gweithredwr ar waith gyda Waystone Management (UK) Limited sy'n pennu dyletswyddau contractiol y Gweithredwr ac yn rheoli'r berthynas rhwng y Gweithredwr a Phartneriaeth Pensiwn Cymru.

Rolau a chyfrifoldebau'r Awdurdodau Cyfansoddol, y Cyd-bwyllgor Llywodraethu, yr Awdurdod Cynnal a'r Gweithredwr wedi eu crynhoi yn yr hyn sy'n atodedig.