Dydd Mercher 02 Mawrth 2022

Datganiad ar argyfwng Rwsia / Wcráin

Datganiad gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru a'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru

Mae'r sefyllfa yn Wcráin yn peri tristwch mawr i ni ac rydym yn meddwl am bobl Wcráin.

Mae cyfanswm ein cysylltiad â Buddsoddiadau Rwsiaidd yn fach iawn ac yn llai nag 1%. Er hynny, yng ngoleuni'r digwyddiadau ofnadwy yr ydym wedi'u gweld a'r sancsiynau economaidd a osodwyd yn rhyngwladol, rydym wedi penderfynu'n gyfunol y dylid dadfuddsoddi o'r daliannau hyn cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl.

O ystyried yr amgylchiadau, nid ydym yn credu bod ymwneud â'r cwmnïau hyn yn opsiwn posibl.

Y Cynghorydd Clive Lloyd

Ar gyfer ac ar ran Partneriaeth Pensiwn Cymru a'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru

 

Yn ôl

Newyddion Arall

Gweld Popeth
Dydd Mawrth 05 Ebrill 2022

Partneriaeth Pensiwn Cymru yn dyfarnu contractau buddsoddi Marchnadoedd Preifat

Heddiw, mae Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cyhoeddi cyfres o benodiadau i hwyluso'r gwaith o weithredu ei atebion buddsoddi mewn Seilwaith Cyfun a Dyledion Preifat.

Bydd Russell Investments yn datblygu rhaglen buddsoddi mewn dyledion preifat cyfun PPC, bydd GCM Grosvenor yn gweithredu buddsoddiadau seilwaith pengaead a bydd seilwaith penagored yn cael ei fuddsoddi drwy Gronfa Seilwaith Byd-eang CBRE, Cronfa Seilwaith Byd-eang IFM ac SCSp Seilwaith Ynni Adnewyddadwy Octopus.

Mae'r penodiadau'n dilyn proses gaffael drylwyr sy'n cael ei rhedeg gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru gyda'r cwmni ymgynghori buddsoddi bfinance. Bydd y datblygiad yn galluogi mynediad effeithlon ac effeithiol i ddosbarthiadau asedau amgen sy'n prysur ddod yn ddaliadau sylweddol ar gyfer cronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

Cafodd Cyd-bwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru ei sefydlu yn 2017 ac mae'n gyfrifol am oruchwylio'r gronfa, sefydliadau partner, a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu i gronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru.

Cyngor Sir Caerfyrddin yw'r Awdurdod Cynnal, gan gysylltu o ddydd i ddydd â phartneriaid allanol y Gronfa ar ran holl gronfeydd y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru.

Chris Moore, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol Cyngor Sir Caerfyrddin (Awdurdod Cynnal Partneriaeth Pensiwn Cymru):

“Yn hanesyddol, mae wedi bod yn heriol cael mynediad at ddosbarthiadau asedau amgen mewn modd cost-effeithiol. Mae cyfuno yn cynnig cyfle i fynd i'r afael â'r her hon. Mae gan gronfeydd cyfansoddol y PPC alw strategol cynyddol am y buddsoddiadau hyn, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda'n partneriaid newydd i ateb y galw hwn.”

 

Darllen Fwy
Dydd Llun 04 Ebrill 2022

PPC yn ennill Gwobr Cronfa'r Flwyddyn yng Ngwobrau Buddsoddiadau Fforwm Cronfeydd Pensiwn yr Awdurdodau Lleol 2021

Mae'n fraint cyhoeddi ein bod wedi llwyddo i ennill Cronfa'r Flwyddyn yng Ngwobrau Buddsoddiadau Fforwm Cronfeydd Pensiwn yr Awdurdodau Lleol 2021, a gynhaliwyd yn Llundain ar 29 Mawrth 2022.

Hoffem ddiolch i bob un o'r 8 cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru a'n darparwyr allanol am eu cefnogaeth barhaus, ein rhanddeiliaid a phawb sy'n gysylltiedig â rheoli a darparu gwasanaeth rhagorol i'r Cynllun.

Darllen Fwy
Dydd Iau 10 Mawrth 2022

Llofnodwr Cod Stiwardiaeth y DU

Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) bellach yn un o lofnodwyr Cod Stiwardiaeth y DU.

https://www.frc.org.uk/investors/uk-stewardship-code/uk-stewardship-code-signatories

Mae Cod Stiwardiaeth y DU 2020 yn gosod safonau uchel ar gyfer stiwardiaeth ac mae PPC wedi ceisio cyrraedd y safonau hyn drwy ei hagwedd at fuddsoddi cyfrifol. Felly, mae PPC yn falch iawn o gael ei chydnabod fel un o lofnodwyr y Cod. 

Roedd ein hadroddiad ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021 yn ymwneud â'r cam cyntaf ar daith PPC, sef blwyddyn pan osodwyd sylfeini cadarn drwy benodi Robeco yn ddarparwr stiwardiaeth, sefydlu ein His-grŵp Buddsoddi Cyfrifol a dechrau'r broses o sicrhau bod ein hymrwymiadau polisi yn cael eu rhoi ar waith.  Buom hefyd yn gweithio'n agos gyda Link Fund Solutions a Russell Investments yn ystod y flwyddyn i ddatblygu a gweithredu strategaeth ddatgarboneiddio arloesol ar gyfer ein Cronfa Cyfleoedd Byd-eang, ac ers hynny rydym wedi ceisio ymestyn y broses hon i'n His-gronfeydd eraill.

Rydym yn cydnabod bod llawer mwy i'w wneud ond rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gynyddu ein dealltwriaeth o arferion buddsoddi cyfrifol a datblygu ein dull gweithredu.  Dysgodd y broses adrodd lawer i ni ac rydym eisoes wedi cymryd camau i weithredu rhai o'r gwersi hynny, er enghraifft, drwy graffu'n fwy ar ein darparwyr a'r asedau y maent yn eu rheoli ar ein cyfer.  Rydym yn gwneud hyn gan gydnabod bod gan PPC gyfrifoldeb i bob un o'r wyth Awdurdod Cyfansoddol yng Nghymru, ac aelodau eu cynlluniau pensiwn, i fod yn stiwardiaid effeithiol o'u hasedau.

Darllen Fwy