Partneriaeth Pensiwn Cymru yn lansio llwyfan incwm sefydlog
Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC), y Gronfa ar gyfer wyth cronfa Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, wedi lansio cyfres o gronfeydd incwm sefydlog ar ei llwyfan ACS presennol i ddarparu dewis o is-gronfeydd i weithredu eu buddsoddiadau incwm sefydlog yn seiliedig ar eu dyraniadau asedau strategol. Bydd pob un o'r wyth awdurdod cyfansoddol* yn buddsoddi mewn o leiaf un o'r is-gronfeydd hyn.
Bydd y buddsoddiadau newydd yn cynnwys pum is-gronfa sy'n canolbwyntio ar gredyd byd-eang, bondiau llywodraeth byd-eang, bondiau adenillion absoliwt, credyd aml-ased a chredyd y DU. Ar wahân i gredyd y DU, bydd y bedair is-gronfa arall yn cael eu rheoli gan Russell Investments ac yn defnyddio amrywiaeth o reolwyr incwm sefydlog cyffredinol ac arbenigol i sicrhau adenillion gwell wedi'u haddasu yn ôl risg.
Mae Link Fund Solutions, a benodwyd gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru fel gweithredwr a awdurdodwyd gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn 2018, yn gyfrifol am greu a gweithredu strwythur y llwyfan incwm sefydlog newydd.
Bydd strategaeth gredyd un rheolwr y DU yn lansio gyda £550 miliwn a bydd y bedair is-gronfa a reolir gan Russell Investments yn amrywio o ran maint rhwng £430 miliwn a £780 miliwn.
Wrth sôn am lansio'r llwyfan incwm sefydlog newydd, mae'r Cynghorydd Glyn Caron, Cadeirydd y Cyd-bwyllgor Llywodraethu yn dweud:
"Wrth i farchnadoedd buddsoddi ddod yn fwy cymhleth, rydym yn cydnabod bod angen atebion buddsoddi mwy soffistigedig i gyflawni amcanion hirdymor ein hwyth Awdurdod Cyfansoddol*. Gan weithio gyda Russell Investments a Link Fund Solutions, credwn y bydd yr arian hwn yn rhoi'r gallu i ni sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar farchnadoedd incwm sefydlog wrth gyflawni ein hamcanion i wella arallgyfeirio a lleihau ein costau”.
Mae Jim Leggate, Rheolwr Gyfarwyddwr, Sefydliad y DU a'r Dwyrain Canol yn Russell Investment, hefyd yn dweud:
“Rydym yn falch iawn o ehangu ein perthynas â Phartneriaeth Pensiwn Cymru yn dilyn ein penodiad gwreiddiol yn 2018 fel y darparwr atebion rheoli buddsoddi. Gyda'r lansiad hwn, rydym bellach yn gyfrifol am reoli £5.2 biliwn o asedau Partneriaeth Pensiwn Cymru ar draws ecwitïau ac incwm sefydlog. Mae'r cynnydd rydym i gyd wedi'i wneud hyd yn hyn yn dyst i gydweithrediad gwych llawer o unigolion ar draws yr wyth awdurdod cyfansoddol*, gan gynnwys swyddogion, aelodau a'u hymgynghorwyr.”
Mae Eamonn Gough, Uwch-reolwr Cysylltiadau yn Link Fund Solutions yn ychwanegu:
“Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru yn deall yr angen i ddefnyddio ateb buddsoddi soffistigedig i gyflawni ei hamcanion buddsoddi mewn amgylchedd marchnad heriol. Credwn fod y llwyfan hwn yn bodloni'r gofynion hyn ac yn caniatáu i Bartneriaeth Pensiwn Cymru gael gafael ar arbenigedd rhai o brif reolwyr incwm sefydlog y byd.”
Y DIWEDD
Rhagor o wybodaeth:
partneriaethpensiwncymru@sirgar.gov.uk
Nodyn i Olygyddion:
* Rhestr o'r Awdurdodau Cyfansoddol
- Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg
- Cronfa Bensiwn Clwyd
- Cronfa Bensiwn Dyfed
- Cronfa Bensiwn Torfaen
- Cronfa Bensiwn Gwynedd
- Cronfa Bensiwn Powys
- Cronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf
- Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe
Gwybodaeth am PPC
Sefydlwyd Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) yn 2017. Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru yn gyfuniad o wyth cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Awdurdodau Cyfansoddol) sy'n cwmpasu Cymru gyfan ac yn un o wyth cronfa genedlaethol Pensiwn Llywodraeth Leol.
Mae ganddi hanes hir a llwyddiannus o gydweithio, gan gynnwys enghreifftiau cyn menter gyfuno'r Llywodraeth. Mae'n falch o'i hunaniaeth unigryw fel Cronfa – mae ei Hawdurdodau Cyfansoddol yn cynrychioli ac yn rhychwantu Cymru gyfan. Mae bod yn atebol yn ddemocrataidd yn golygu ei bod yn darparu'r drefn orau o lywodraethu sector cyhoeddus mewn modd tryloyw.
Mae model gweithredu Partneriaeth Pensiwn Cymru wedi'i ddylunio i fod yn hyblyg ac i roi gwerth am arian. Roedd wedi penodi Gweithredwr allanol ac mae'n defnyddio ymgynghorwyr allanol i gael yr arbenigedd gorau i gefnogi'r modd y mae'r Gronfa'n cael ei rhedeg. Link Fund Solutions yw'r Gweithredwr ac mae wedi ymuno â Russell Investments i reoli buddsoddiadau a helpu i leihau costau rheoli buddsoddi ar gyfer yr holl Awdurdodau Cyfansoddol.
Newyddion Arall
Gweld PopethLlofnodwr Cod Stiwardiaeth y DU
Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) yn parhau i fod yn un o lofnodwyr Cod Stiwardiaeth y DU.
https://www.frc.org.uk/investors/uk-stewardship-code/uk-stewardship-code-signatories
Mae Cod Stiwardiaeth y DU 2020 yn gosod safonau uchel ar gyfer stiwardiaeth ac mae Partneriaeth Pensiwn Cymru yn ceisio cyrraedd y safonau hyn drwy ei hagwedd at fuddsoddi cyfrifol. Rydym yn falch iawn, felly, ein bod wedi cadw ein statws llofnodwr ar gyfer 2022.
Rydym wedi bod yn canolbwyntio ar atgyfnerthu yn ystod y flwyddyn, gan adolygu ein polisïau buddsoddi cyfrifol ac adeiladu ar ein prosesau i sicrhau y gall ein trefniant cyfuno ddiwallu anghenion ein buddiolwyr yn well. Mae mwy o ffocws wedi cael ei roi ar oruchwylio a herio ein darparwyr eleni, gan gynnwys archwilio'n ddwfn y risg hinsawdd a'r risgiau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu yn ein his-gronfeydd. Ar ein rhan, mae Robeco wedi pleidleisio ar dros 10,500 o wahanol benderfyniadau ac wedi ymgysylltu â 280 o gwmnïau unigol. Mae ein ffocws ein hunain ar newid yn yr hinsawdd yn cael ei adlewyrchu'n gryf mewn nifer o themâu ymgysylltu Robeco ac rydym yn parhau i chwilio am feysydd lle credwn ein bod yn cefnogi newid yn y byd go iawn.
Rydym yn cydnabod bod llawer mwy i'w wneud o hyd ac, yn ystod y 12 mis diwethaf, wedi pennu adnodd buddsoddi cyfrifol penodol i'n helpu i adeiladu ar ein hymrwymiadau buddsoddi cyfrifol a bodloni gofynion rhanddeiliaid. Rydym hefyd wedi datblygu strategaeth Ecwiti Gweithredol Cynaliadwy ac amrywiaeth o gronfeydd Marchnadoedd Preifat, lle mae ystyried stiwardiaeth a risg hinsawdd wedi bod yn ganolbwynt. Rydym hefyd yn canolbwyntio ar werthuso a chyfleu'r cynnydd y mae Partneriaeth Pensiwn Cymru wedi helpu i'w wneud ar newid yn yr hinsawdd dros y blynyddoedd diwethaf.
Rydym yn dal i fod yn falch o'n hunaniaeth fel cronfa, lle byddwn yn parhau i ddatblygu ar y cyd â phob un o'r wyth Awdurdod Cyfansoddol yng Nghymru - ac aelodau eu cynlluniau pensiwn - i fod yn stiwardiaid effeithiol o'u hasedau.
Partneriaeth Pensiwn Cymru yn penodi Schroders Capital
Heddiw mae Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cyhoeddi'r diweddaraf yn ei chyfres o benodiadau i hwyluso gweithredu ei hatebion buddsoddi marchnadoedd preifat ar y cyd.
Bydd Schroders Capital yn datblygu rhaglen buddsoddi ecwiti preifat ar y cyd ar gyfer PPC i ddiwallu anghenion yr awdurdodau cyfansoddol yn y dosbarth asedau.
Mae'r penodiad yn dilyn proses gaffael drylwyr a gynhaliwyd gan PPC ar y cyd â'r ymgynghorwyr buddsoddi, bfinance. Bydd y datblygiad yn galluogi mynediad effeithlon ac effeithiol at ddosbarth asedau caeth, sydd wedi bod yn ddaliad i gronfeydd CPLlL ers blynyddoedd lawer, ond mae hynny'n creu heriau o ran mynediad, cost a llywodraethu i fuddsoddwyr cronfa bensiwn sengl hyd nes y sicrheir maint.
Chris Moore, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol Cyngor Sir Caerfyrddin (Awdurdod Cynnal Partneriaeth Pensiwn Cymru):
“Mae ecwiti preifat wedi bod yn ddaliad pwysig i awdurdodau cyfansoddol PPC ond, yn hanesyddol, mae wedi bod yn heriol cael mynediad ato mewn modd cost-effeithiol. Mae cyfuno yn cynnig cyfle i fynd i'r afael â hyn. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'n partneriaid newydd i ymateb i'r her hon a chyflawni gwaith buddsoddi ecwiti preifat effeithlon ac effeithiol ar gyfer y tymor hir.”
Partneriaeth Pensiwn Cymru yn dyfarnu contractau buddsoddi Marchnadoedd Preifat
Heddiw, mae Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cyhoeddi cyfres o benodiadau i hwyluso'r gwaith o weithredu ei atebion buddsoddi mewn Seilwaith Cyfun a Dyledion Preifat.
Bydd Russell Investments yn datblygu rhaglen buddsoddi mewn dyledion preifat cyfun PPC, bydd GCM Grosvenor yn gweithredu buddsoddiadau seilwaith pengaead a bydd seilwaith penagored yn cael ei fuddsoddi drwy Gronfa Seilwaith Byd-eang CBRE, Cronfa Seilwaith Byd-eang IFM ac SCSp Seilwaith Ynni Adnewyddadwy Octopus.
Mae'r penodiadau'n dilyn proses gaffael drylwyr sy'n cael ei rhedeg gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru gyda'r cwmni ymgynghori buddsoddi bfinance. Bydd y datblygiad yn galluogi mynediad effeithlon ac effeithiol i ddosbarthiadau asedau amgen sy'n prysur ddod yn ddaliadau sylweddol ar gyfer cronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
Cafodd Cyd-bwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru ei sefydlu yn 2017 ac mae'n gyfrifol am oruchwylio'r gronfa, sefydliadau partner, a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu i gronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru.
Cyngor Sir Caerfyrddin yw'r Awdurdod Cynnal, gan gysylltu o ddydd i ddydd â phartneriaid allanol y Gronfa ar ran holl gronfeydd y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru.
Chris Moore, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol Cyngor Sir Caerfyrddin (Awdurdod Cynnal Partneriaeth Pensiwn Cymru):
“Yn hanesyddol, mae wedi bod yn heriol cael mynediad at ddosbarthiadau asedau amgen mewn modd cost-effeithiol. Mae cyfuno yn cynnig cyfle i fynd i'r afael â'r her hon. Mae gan gronfeydd cyfansoddol y PPC alw strategol cynyddol am y buddsoddiadau hyn, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda'n partneriaid newydd i ateb y galw hwn.”