Dydd Mercher 08 Ebrill 2020

Partneriaeth Pensiwn Cymru yn penodi Robeco UK fel ei darparwr Pleidleisio ac Ymgysylltu

Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) yn falch o gyhoeddi ei bod wedi penodi Robeco UK, cangen o Robeco Institutional Asset Management B.V (‘Robeco’), fel darparwr Pleidleisio ac Ymgysylltu PPC. Penodwyd Robeco ar ôl cwblhau ymarfer caffael cynhwysfawr. Bydd contract Robeco yn dechrau ar 1 Ebrill 2020 a bydd yn weithredol am gyfnod cychwynnol o 3 blynedd gyda'r posibilrwydd o estyniad am 2 flynedd.

Bydd Robeco yn cynorthwyo PPC i lunio a chynnal Polisi Pleidleisio ac Egwyddorion Ymgysylltu sy'n gydnaws ag aelodaeth Awdurdodau Cyfansoddol Cymru o Fforwm Cronfeydd Pensiwn yr Awdurdodau Lleol.

Cyfrifoldeb Robeco fydd helpu PPC i lunio ei Pholisi Pleidleisio. Bydd y gwaith hwn yn cael ei gyflawni mewn cydweithrediad â'r wyth Awdurdod Cyfansoddol yng Nghymru dros y chwe mis nesaf. Yn dilyn hyn, bydd Robeco yn gyfrifol am weithredu'r Polisi Pleidleisio ar draws portffolio ecwiti gweithredol PPC gwerth £5bn ac adrodd i PPC a'r cronfeydd gwaelodol.

Yn ogystal, bydd Robeco yn cynorthwyo PPC i lunio ei Hegwyddorion Ymgysylltu a bydd yn cyflawni gwaith ymgysylltu ar ran PPC yn unol â'r egwyddorion y cytunwyd arnynt. Fel rhan o faes gorchwyl Robeco, bydd yn manteisio ar brofiad llwyddiannus PPC o weithio gyda phartneriaid, llunwyr polisi a rheoleiddwyr tebyg i sicrhau bod PPC yn cyflawni'r canlyniadau ymgysylltu mwyaf effeithiol. Bydd Robeco hefyd yn darparu adroddiadau a hyfforddiant ar weithgareddau ymgysylltu PPC ar lefel y gronfa ac ar lefel awdurdod cyfansoddol. 

Bydd PPC yn cyhoeddi ei Pholisi Pleidleisio a'i Hegwyddorion Ymgysylltu ar y wefan hon ar ôl iddynt gael eu cwblhau.

Mae PPC o'r farn y dylai buddsoddi cyfrifol ynghyd ag ystyriaeth a rheolaeth dystiolaethol o faterion Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu arwain at well canlyniadau i randdeiliaid PPC. Mae penodiad Robeco yn dangos bod PPC yn parhau i gyflawni'r ymrwymiadau a wnaed yn ei Pholisi Buddsoddiad Cyfrifol a'i hadduned i arfer ei hawliau pleidleisio yn unol â buddion ei rhanddeiliaid ac i ymgysylltu â chwmnïau buddsoddi i wella gwerth hirdymor buddsoddiadau'r Awdurdodau Cyfansoddol o fewn PPC.

Yn ôl