Dydd Mercher 10 Ionawr 2018

Partneriaeth Pensiwn Cymru yw cronfa fuddsoddi gyntaf y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol i benodi gweithredwr cronfa

Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru heddiw yn cyhoeddi penodiad Link Fund Solutions Ltd (Link) i sefydlu a chynnal cyfrwng buddsoddi cyfunol at ddefnydd cronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru yn unig.

Penodwyd Link yn weithredwr awdurdodedig yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn dilyn proses gaffael drylwyr gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru a'i hymgynghorwyr, Hymans Robertson a Burges Salmon. Bydd hyn yn galluogi cyfuno tua £15 biliwn o asedau ar draws ystod o ddosbarthiadau ased. Mae mandadau goddefol pob un o 8 cronfa'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru eisoes wedi'u buddsoddi ar y cyd, gan roi bod i arbedion ffi amcangyfrifedig o fwy na £2 filiwn y flwyddyn ar asedau o fwy na £3 biliwn. Mae penodi Link yn garreg filltir arall yn y broses gyfuno, gan weithio tuag at ddyddiad targed Llywodraeth San Steffan o fis Ebrill 2018.

Bydd Link yn sefydlu ac yn cynnal Cynllun Contractiol Awdurdodedig (cyfrwng buddsoddi cyfunol treth-effeithlon yn y DU) ar ran Partneriaeth Pensiwn Cymru. Bydd gan y Cynllun Contractiol Awdurdodedig is-gronfeydd mewn amryw o ddosbarthiadau ased a fydd yn diwallu anghenion yr awdurdodau buddsoddi, gan eu galluogi i roi eu gwahanol strategaethau dyrannu asedau ar waith. Gyda chefnogaeth Russell Investments a thrwy ymgynghori â'r wyth cronfa unigol ar gyfer awdurdodau lleol, bydd Link yn dechrau'r broses o benodi nifer o gwmnïau rheoli buddsoddiadau, ond bydd cronfeydd y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn cadw rheolaeth lawn dros benderfyniadau dyrannu asedau strategol. Drwy ddefnyddio llai o gwmnïau rheoli buddsoddiadau ond sydd â mandadau mwy o faint, disgwylir i'r gronfa roi bod i arbedion ffi, un o brif amcanion polisi'r Llywodraeth.

Cafodd Cyd-bwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru ei sefydlu'n gynharach yn 2017 ac mae'n gyfrifol am oruchwylio gweithredwr y gronfa, Link, a'r gwasanaethau mae'n eu darparu i gronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru.

 

Y Cynghorydd Stephen Churchman, Cadeirydd y Cyd-bwyllgor Llywodraethu:

“Ar ôl proses ddethol drwyadl, rydym yn falch iawn o gyhoeddi penodiad Link fel y gweithredwr ar gyfer cronfa fuddsoddi Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ar gyfer Cymru. Mae gan awdurdodau gweinyddu Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru hanes hir a llwyddiannus o gydweithredu. Rydym ar y trywydd iawn i gael y gronfa'n weithredol yn gynnar yn 2018, gan ddarparu arbedion ffi pellach o ran rheolwr buddsoddi, a fydd o fudd i bob cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru.”

Cyngor Sir Caerfyrddin yw'r Awdurdod Cynnal, gan gysylltu o ddydd i ddydd â'r gweithredwr, Link, ar ran holl gronfeydd y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru.

Chris Moore, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol Cyngor Sir Caerfyrddin (Awdurdod Cynnal Partneriaeth Pensiwn Cymru):

“Mae penodi Link yn garreg filltir arwyddocaol o ran sefydlu cronfa fuddsoddi £15 biliwn ar gyfer cronfeydd y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Link i sicrhau bod y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru yn elwa ar gyfuno buddsoddiadau.”

Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cynnwys y cronfeydd canlynol: Caerdydd a Bro Morgannwg, Dinas a Sir Abertawe, Clwyd, Dyfed, Gwent Fwyaf (Torfaen), Gwynedd, Powys a Rhondda Cynon Taf.

Yn ôl